Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(80)v4

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymchwiliad Robert Powell (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu (60 miunud)

</AI4>

<AI5>

5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-drefnu Addysg Uwch yn ne-ddwyrain Cymru (30 munud)

</AI5>

<AI6>

6. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Remploy (30 mins)

</AI6>

<AI7>

7. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys (30 munud)

</AI7>

<AI8>

8. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Trydanu (30 munud)

</AI8>

<AI9>

9. Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 - Gohirwyd tan 18 July   

NDM5038 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012
Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig

 

</AI9>

<AI10>

10. Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 - Gohirwyd tan 18 July   

NDM4988 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Dileu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.

Dogfen Ategol
Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  
 

</AI10>

<AI11>

11. Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 - Gohirwyd tan 18 July   

NDM5037 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2012.

Dogfennau Atgol
Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012  
Memorandwm Esboniadol

 

 

</AI11>

<AI12>

12. Dadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2012-13 (30 munud) 

NDM5026 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 26 Mehefin 2012.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau ategol:
Gyllideb Atodol 2012-13
Papur Ymchwil: Cyllideb Atodol 2012-13 (Mehefin 2012) – Y Gwasanaeth Ymchwil
Addroddiad Y Pwyllgor Cyllid Craffu ar gynnig y Gyllideb Atodol ar gyfer 2012–2013 (Haf 2012)

 

 

</AI12>

<AI13>

Cyfnod Pleidleisio

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>